Taking action for your needs.

Action Deafness yn Derbyn Statws Gofal Cofrestredig AGC, Gan Lansio Gwasanaethau Cymorth Arbenigol yng Nghymru

website donate icon dark grey and green

Action Deafness Granted CIW Registered Care Status, Launching Specialist Support Services in Wales.

(04.04.2025) — Mae Action Deafness yn falch o gyhoeddi bod y sefydliad wedi derbyn statws gofal cartref cofrestredig AGC (Arolygiaeth Gofal Cymru), gan nodi carreg filltir sylweddol yn ei ymroddiad i wella bywydau unigolion Byddar, Byddar a Dall, ac unigolion sy’n Drwm eu Clyw ledled Cymru. 

Dywedodd Craig Crowley, Prif Weithredwr Action Deafness: “Rydym ar ben ein digon cyflawni statws gwasanaeth cymorth cartref cofrestredig AGC. Bydd yr achrediad hwn yn ein galluogi i ehangu ein gwasanaethau yng Nghymru ac i sicrhau bod y rheiny sy’n Fyddar, yn Fyddar a Dall, neu yn Drwm eu Clyw yn derbyn y cymorth a’r gofal arbenigol y maent yn ei haeddu. “

Dywedodd Christopher Reid, Cyfarwyddwr Darparu Gwasanaeth Action Deafness, sy’n arwain y datblygiad pwysig hwn: “Mae’r achrediad newydd hwn yn ein galluogi i ddarparu gofal arbenigol a gwasanaethau cymorth sy’n bwrpasol i anghenion unigryw’r cymunedau hyn mewn Awdurdodau Lleol sydd wedi’u lleoli yn bennaf yn Ne Cymru. Mae ein tîm newydd ac ymroddedig yn barod i ddarparu cymorth trawsnewidiol sy’n grymuso unigolion, yn meithrin annibyniaeth ac yn gwella ansawdd bywyd. Edrychwn ymlaen at gynnig y gwasanaethau hyn.”

Bydd y gwasanaethau yn cynnwys cynlluniau gofal personol, cefnogaeth byw â chymorth, a chymorth 1 i 1 arbenigol. Ein bwriad yw creu amgylchedd cynhwysol sy’n hyrwyddo ymgysylltu cymdeithasol, byw’n annibynnol, a llesiant cyfan gwbl.

Mae Action Deafness yn ymroddedig i arwain y ffordd o ran gofal o safon dda i gymunedau Byddar, Byddar a Dall, a Thrwm eu Clyw, ac mae’r sefydliad yn edrych ymlaen at gael effaith gadarnhaol ar fywydau unigolion ledled Cymru.

Am ragor o wybodaeth am ein gwasanaethau cymorth arbenigol, ewch i’n gwefan: www.actiondeafness.org.uk neu cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at: [email protected]    

Cefndir Action Deafness

Mae Action Deafness yn sefydliad blaenllaw a arweinir gan Fyddardod, ac sydd wedi ymrwymo i gynorthwyo unigolion Byddar, Byddar a Dall, ac unigolion sy’n Drwm eu Clyw ledled y DU. Trwy amrywiaeth o gymorth a gwasanaethau arbenigol, rydym yn ymdrechu i rymuso ein cymuned, a hyrwyddo hygyrchedd a chynhwysiant.

Cyswllt y Wasg: 

Charlotte Jefferies

Gweithredwr Pobl, Action Deafness 

[email protected]

 

Read in English

Thank you for your support!

Action Deafness would like to thank Signapse who hove kindly translated our home page. Signapse are a team of Deaf and hearing people; entrepreneurs, engineers and researchers. They build artificial intelligence solutions for clients who want access to sign language translation and interpretation.