Action Deafness Granted CIW Registered Care Status, Launching Specialist Support Services in Wales.
(04.04.2025) — Mae Action Deafness yn falch o gyhoeddi bod y sefydliad wedi derbyn statws gofal cartref cofrestredig AGC (Arolygiaeth Gofal Cymru), gan nodi carreg filltir sylweddol yn ei ymroddiad i wella bywydau unigolion Byddar, Byddar a Dall, ac unigolion sy’n Drwm eu Clyw ledled Cymru.
Dywedodd Craig Crowley, Prif Weithredwr Action Deafness: “Rydym ar ben ein digon cyflawni statws gwasanaeth cymorth cartref cofrestredig AGC. Bydd yr achrediad hwn yn ein galluogi i ehangu ein gwasanaethau yng Nghymru ac i sicrhau bod y rheiny sy’n Fyddar, yn Fyddar a Dall, neu yn Drwm eu Clyw yn derbyn y cymorth a’r gofal arbenigol y maent yn ei haeddu. “
Dywedodd Christopher Reid, Cyfarwyddwr Darparu Gwasanaeth Action Deafness, sy’n arwain y datblygiad pwysig hwn: “Mae’r achrediad newydd hwn yn ein galluogi i ddarparu gofal arbenigol a gwasanaethau cymorth sy’n bwrpasol i anghenion unigryw’r cymunedau hyn mewn Awdurdodau Lleol sydd wedi’u lleoli yn bennaf yn Ne Cymru. Mae ein tîm newydd ac ymroddedig yn barod i ddarparu cymorth trawsnewidiol sy’n grymuso unigolion, yn meithrin annibyniaeth ac yn gwella ansawdd bywyd. Edrychwn ymlaen at gynnig y gwasanaethau hyn.”
Bydd y gwasanaethau yn cynnwys cynlluniau gofal personol, cefnogaeth byw â chymorth, a chymorth 1 i 1 arbenigol. Ein bwriad yw creu amgylchedd cynhwysol sy’n hyrwyddo ymgysylltu cymdeithasol, byw’n annibynnol, a llesiant cyfan gwbl.
Mae Action Deafness yn ymroddedig i arwain y ffordd o ran gofal o safon dda i gymunedau Byddar, Byddar a Dall, a Thrwm eu Clyw, ac mae’r sefydliad yn edrych ymlaen at gael effaith gadarnhaol ar fywydau unigolion ledled Cymru.
Am ragor o wybodaeth am ein gwasanaethau cymorth arbenigol, ewch i’n gwefan: www.actiondeafness.org.uk neu cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at: [email protected]
Cefndir Action Deafness
Mae Action Deafness yn sefydliad blaenllaw a arweinir gan Fyddardod, ac sydd wedi ymrwymo i gynorthwyo unigolion Byddar, Byddar a Dall, ac unigolion sy’n Drwm eu Clyw ledled y DU. Trwy amrywiaeth o gymorth a gwasanaethau arbenigol, rydym yn ymdrechu i rymuso ein cymuned, a hyrwyddo hygyrchedd a chynhwysiant.
Cyswllt y Wasg:
Charlotte Jefferies
Gweithredwr Pobl, Action Deafness