Cyngor Cymru i Bobl Fyddar ac Action Deafness
(03.10.2025) – Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd Cyngor Cymru i Bobl Fyddar (WCDP) ac Action Deafness yn cwblhau eu cyfuniad ffurfiol ar 31ain Hydref 2025. Mae hyn yn dilyn cyfnod o gydweithrediad clos a chynllunio ar y cyd.
O 3ydd Tachwedd 2025, bydd WCDP yn newid yn swyddogol i fod yn:
Byddardod Ymlaen Cymru / Action Deafness Cymru
Dyma gam strategol a chadarnhaol ymlaen i’r gymuned Fyddar, Trwm ei Chlyw a Dall Fyddar yng Nghymru. Mae’r ddau sefydliad yn rhannu gweledigaeth i sicrhau, atgyfnerthu a datblygu gwasanaethau Byddar a Dall Fyddar ledled Cymru.
Mae Action Deafness yn falch o weithio mewn partneriaeth agos ag ymddiriedolwyr a thîm WCDP er mwyn sicrhau trosglwyddiad llyfn sy’n gwarchod yr hunaniaeth Gymreig, gwasanaethau lleol a threftadaeth ddiwylliannol.
Pam mae hyn yn digwydd?
Ers dros 50 mlynedd, mae WCDP wedi chwarae rhan hanfodol yn cefnogi ac eirioli dros gymunedau Byddar yng Nghymru.
Serch hynny, fel sawl elusen, mae wedi wynebu pwysau cynyddol mewn amgylchedd newidiol. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae WCDP wedi cydnabod yr angen am fodel mwy gwydn a chynaliadwy i fodloni anghenion cymunedol ac amgylcheddau ariannu sy’n newid dros amser.
Mae Action Deafness yn elusen a arweinir gan bobl Fyddar ac mae ganddi hanes cryf o gymorth arbenigol, eiriolaeth, cyfathrebu a gofal. Mae Action Deafness wedi camu ymlaen i helpu a diogelu dyfodol y Gwasanaethau ar gyfer pobl Fyddar, Trwm eu Clyw a Dall Fyddar yng Nghymru.
Mae Action Deafness a WCDP yn sefydliadau Byddar gyda chryfderau sy’n cyd-fynd yn dda. Maen nhw wedi dewis uno eu gwasanaethau a dwyn ynghyd arbenigedd lleol, cyrhaeddiad cenedlaethol a chyd-ymrwymiad i wasanaethau sy’n briodol yn ddiwylliannol.
Mae’r bartneriaeth hon yn sicrhau y bydd gwasanaethau’n cryfhau, gyda phwyslais o’r newydd ar arweinyddiaeth gymunedol, hunaniaeth Gymreig ac effaith hirdymor.
Beth fydd yn newid?
O 3ydd Tachwedd 2025, bydd WCDP yn cael ei adnabod fel Byddardod Ymlaen Cymru / Action Deafness Cymru.
Bydd yr holl wasanaethau presennol yn parhau. Mae Byddardod Ymlaen Cymru yn bwriadu sefydlu gwasanaethau newydd a chyrraedd pob rhanbarth yng Nghymru.
Bydd Action Deafness hefyd yn integreiddio ei Wasanaethau Cymorth a Gofal Arbenigol yng Nghymru, gan sicrhau bod gan bobl leol Byddar a Dall Fyddar fynediad at ofal sy’n briodol yn ddiwylliannol ac yn hygyrch o ran BSL. Bydd Action Deafness yn cyflwyno dau dîm o dde Cymru yn yr ychydig fisoedd nesaf.
Bydd pob cyfathrebiad yn defnyddio BSL yn gyntaf gyda chyfathrebu ysgrifenedig yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg). Mae hyn yn sicrhau hygyrchedd llawn at wybodaeth a chynhwysiant i bawb.
Beth mae hyn yn ei olygu i’r gymuned?
Bydd Byddardod Ymlaen Cymru / Action Deafness Cymru yn parhau i gefnogi pobl Fyddar, Trwm eu Clyw a Dall Fyddar o bob oed ledled Cymru.
Bydd Byddardod Ymlaen Cymru yn parchu a hyrwyddo diwylliant Byddar Cymru, BSL Cymru ac arweinyddiaeth leol.
Bydd Grŵp Cynghori pwrpasol i Gymru’n llywio blaenoriaethau ac yn sicrhau bod lleisiau lleol yn arwain y broses o wneud penderfyniadau.
Bydd Byddardod Ymlaen Cymru / Action Deafness Wales yn datblygu’r tîm presennol a leolir yng Nghymru. Darperir rhagor o hyfforddiant i’r tîm presennol a bydd mwy o swyddi Byddar ar gael.
Bydd Byddardod Ymlaen Cymru / Action Deafness Cymru yn cefnogi cymunedau Byddar, Trwm eu Clyw a Dall Fyddar Cymru i ymgysylltu â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn Llywodraeth Cymru.
Amserlen:
- 23 Hydref 2025 – Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol WCDP i gymeradwyo’r trosglwyddiad yn ffurfiol
- 31 Hydref 2025 – Cyfuno Ffurfiol wedi’i gwblhau
- 03 Tachwedd 2025 – Lansio Byddardod Ymlaen Cymru/Action Deafness Cymru
“Pennod Newydd, Yr Un Nod – Meithrin Dyfodol Pobl Fyddar yng Nghymru”
Cefndir Action Deafness
Mae Action Deafness yn sefydliad blaenllaw a arweinir gan Fyddardod, ac sydd wedi ymrwymo i gynorthwyo unigolion Byddar, Byddar a Dall, ac unigolion sy’n Drwm eu Clyw ledled y DU. Trwy amrywiaeth o gymorth a gwasanaethau arbenigol, rydym yn ymdrechu i rymuso ein cymuned, a hyrwyddo hygyrchedd a chynhwysiant.
Cyswllt y Wasg:
Charlotte Jefferies, Gweithredwr Pobl, Action Deafness: [email protected]