Action Deafness Appoints Mark Isherwood as Patron
BSL – English
Action Deafness Appoints Mark Isherwood as Patron
Action Deafness is proud to announce that Mark Isherwood, former Member of the Senedd, has agreed to become a Patron of the organisation.
Mark Isherwood is widely recognised for his longstanding commitment to Deaf communities and his pivotal role as the architect behind the British Sign Language (BSL) (Wales) Bill, which was passed by the Senedd/Welsh Parliament on 11th March 2026, a landmark step forward in advancing the rights, recognition, and accessibility of BSL users in Wales.
Craig Crowley, CEO of Action Deafness, said: “We are absolutely delighted to welcome Mark as a Patron. His dedication, leadership, and influence in championing Deaf people’s rights - particularly through the British Sign Language (BSL) (Wales) Bill legislation - have made a lasting impact. His support strengthens our mission as a Deaf-led organisation driving systemic change across England and Wales.”
As Patron, Mark will support Action Deafness Cymru in raising awareness of Deaf issues, advocating for policy development, and championing equality, access, and inclusion for Deaf, Deafblind, and Hard of Hearing people.
Mark Isherwood said: “I am honoured to become a Patron of Action Deafness. The organisation’s Deaf-led approach and its commitment to empowering Deaf people align strongly with the work I have supported throughout my political career. I look forward to continuing to advocate for greater inclusion and recognition of BSL users particularly in Wales.”
Action Deafness continues to play a leading role in delivering specialist services, influencing policy, and promoting Deaf culture, language, and leadership across the UK.
BSL – Cymraeg / Welsh
Byddardod Ymalaen (Action Deafness) yn penodi Mark Isherwood yn Noddwr
Mae Byddardod Ymalaen (Action Deafness) yn falch o gyhoeddi fod Mark Isherwood, cyn aelod o’r Senedd, wedi cytuno i ddod yn Noddwr i'r sefydliad.
Mae Mark Isherwood yn fwyaf adnabyddus am ei ymrwymiad hirsefydlog i gymunedau Byddar a’i rôl hollbwysig fel y sawl tu ôl i Fil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru), a basiwyd gan y Senedd ar yr 11eg o Fawrth 2026, cam nodedig ymlaen o ran gyrru hawliau, cydnabyddiaeth a hygyrchedd defnyddwyr BSL yng Nghymru.
Dywedodd Craig Crowley, Prif Weithredwr Action Deafness: “Rydym wrth ein bodd o gael croesawu Mark fel Noddwr. Mae ei ymrwymiad, arweinyddiaeth, a'i ddylanwad wrth hyrwyddo hawliau pobl Fyddar - yn enwedig drwy ddeddfwriaeth Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru) - wedi cael effaith hirhoedlog. Mae ei gefnogaeth yn cryfhau ein cenhadaeth fel sefydliad sydd dan arweiniad pobl fyddar ac sy’n ysgogi newid systematig ar draws Cymru a Lloegr.”
Fel Noddwr, bydd Mark yn cefnogi Byddardod Ymlaen Cymru wrth godi ymwybyddiaeth o faterion ynghylch byddardod, gan eirioli dros ddatblygiad polisi, a hyrwyddo cydraddoldeb, hygyrchedd, a chynhwysiant ar gyfer pobl sy’n fyddar, yn fyddar ac yn ddall, neu sy’n drwm eu clyw.
Dywedodd Mark Isherwood: “Mae’n fraint cael dod yn Noddwr Action Deafness. Mae dull y sefydliad o arweinyddiaeth gan bobl fyddar a’i ymrwymiad i rymuso pobl fyddar yn cyd-fynd yn dda â’r gwaith rwyf wedi’i gefnogi drwy gydol fy ngyrfa wleidyddol. Rwy’n edrych ymlaen at barhau i eirioli dros well cynhwysiant a chydnabyddiaeth o ddefnyddwyr IAP, yn enwedig yng Nghymru.”
Mae Action Deafness yn parhau i chwarae rhan arweiniol wrth ddarparu gwasanaethau arbenigol, dylanwadu ar bolisi, a hyrwyddo diwylliant, iaith, ac arweinyddiaeth gan bobl fyddar ledled y DU.