Byddardod Ymalaen (Action Deafness) yn penodi Mark Isherwood yn Noddwr

BSL – Cymraeg / Welsh

Byddardod Ymalaen (Action Deafness) yn penodi Mark Isherwood yn Noddwr

Mae Byddardod Ymalaen (Action Deafness) yn falch o gyhoeddi fod Mark Isherwood, cyn aelod o’r Senedd, wedi cytuno i ddod yn Noddwr i'r sefydliad.

Mae Mark Isherwood yn fwyaf adnabyddus am ei ymrwymiad hirsefydlog i gymunedau Byddar a’i rôl hollbwysig fel y sawl tu ôl i Fil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru), a basiwyd gan y Senedd ar yr 11eg o Fawrth 2026, cam nodedig ymlaen o ran gyrru hawliau, cydnabyddiaeth a hygyrchedd defnyddwyr BSL yng Nghymru.

Dywedodd Craig Crowley, Prif Weithredwr Action Deafness: “Rydym wrth ein bodd o gael croesawu Mark fel Noddwr. Mae ei ymrwymiad, arweinyddiaeth, a'i ddylanwad wrth hyrwyddo hawliau pobl Fyddar - yn enwedig drwy ddeddfwriaeth Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru) - wedi cael effaith hirhoedlog. Mae ei gefnogaeth yn cryfhau ein cenhadaeth fel sefydliad sydd dan arweiniad pobl fyddar ac sy’n ysgogi newid systematig ar draws Cymru a Lloegr.”

Fel Noddwr, bydd Mark yn cefnogi Byddardod Ymlaen Cymru wrth godi ymwybyddiaeth o faterion ynghylch byddardod, gan eirioli dros ddatblygiad polisi, a hyrwyddo cydraddoldeb, hygyrchedd, a chynhwysiant ar gyfer pobl sy’n fyddar, yn fyddar ac yn ddall, neu sy’n drwm eu clyw.

Dywedodd Mark Isherwood:  “Mae’n fraint cael dod yn Noddwr Action Deafness. Mae dull y sefydliad o arweinyddiaeth gan bobl fyddar a’i ymrwymiad i rymuso pobl fyddar yn cyd-fynd yn dda â’r gwaith rwyf wedi’i gefnogi drwy gydol fy ngyrfa wleidyddol. Rwy’n edrych ymlaen at barhau i eirioli dros well cynhwysiant a chydnabyddiaeth o ddefnyddwyr IAP, yn enwedig yng Nghymru.”

Mae Action Deafness yn parhau i chwarae rhan arweiniol wrth ddarparu gwasanaethau arbenigol, dylanwadu ar bolisi, a hyrwyddo diwylliant, iaith, ac arweinyddiaeth gan bobl fyddar ledled y DU.