JOINT PUBLIC ANNOUNCEMENT – Wales Council of Deaf People and Action Deafness
BSL - English
English
JOINT PUBLIC ANNOUNCEMENT – Wales Council of Deaf People and Action Deafness
(03.10.2025) - We are pleased to announce that Action Deafness and Wales Council for Deaf People (WCDP) will complete their formal integration on 31st October 2025. This follows a period of close collaboration and shared planning.
From 3rd November 2025, WCDP will officially become:
Action Deafness Cymru / Byddardod Ymlaen Cymru
This is a positive and strategic step forward for the Welsh Deaf, Hard of Hearing and Deafblind community. Both organisations share a vision to secure, strengthen and grow Deaf and Deafblind services across Wales.
Action Deafness is proud to work in close partnership with WCDP’s trustees and team to ensure a smooth transition that retains the Welsh identity, local services and cultural heritage.
Why is this happening?
For over 50 years, WCDP has played a vital role in supporting and advocating for Deaf communities in Wales.
However, like many charities, it has faced increasing pressures in a changing environment. In recent years, WCDP has recognised the need for a more resilient, sustainable model to meet evolving community needs and funding environments.
Action Deafness is a Deaf-led charity with a strong track record in specialist support, advocacy, communication and care. Action Deafness has stepped forward to help and secure the future of Deaf, Hard of Hearing and Deafblind Services in Wales.
Action Deafness and WCDP are Deaf organisations with complementary strengths. They have chosen to unite their services and bring together local expertise, national reach and a shared commitment to culturally appropriate services.
This partnership ensures that services will grow stronger, with a renewed focus on community leadership, Welsh identity and long-term impact.
What will change?
From 3rd November 2025, WCDP will be known as Action Deafness Cymru / Byddardod Ymlaen Cymru.
All existing services will continue. Action Deafness Cymru is planning to establish new services and reach all regions of Wales.
Action Deafness will also integrate its Specialist Support Care Services into Wales, ensuring local Deaf and Deafblind people have access to culturally appropriate, BSL-accessible care. AD will shortly bring in two teams from South West and South East Wales in the next coming months.
All Communication will be ‘BSL-first’ with bilingual (Welsh and English) written communication. This ensures full accessibility to information and inclusion for all.
What does this mean for the community?
Action Deafness Cymru/ Byddardod Ymlaen Cymru will continue to support Deaf, Hard of Hearing and Deafblind people of all ages across Wales.
Action Deafness Cymru will respect and promote Welsh Deaf culture, Welsh BSL and local leadership.
A dedicated Welsh Advisory Group will shape priorities and ensure local voices lead decision-making.
Byddardod Ymlaen Cymru /Action Deafness Cymru will grow the current Welsh-based team. More training will be provided to the current team and more Deaf jobs will become available.
Byddardod Ymlaen Cymru /Action Deafness Cymru will support the Welsh Deaf, Hard of hearing and Deafblind communities to engage with decision makers in the Welsh Government.
Timeline:
• 23 October 2025 – WCDP Annual General Meeting to formally approve the transition
• 31 October 2025 – Formal Integration completed
• 03 November 2025 – Launch of Byddardod Ymlaen Cymru/Action Deafness Cymru
"New Chapter, Same Heart – Building Deaf Futures in Wales"
Notes to Editors:
About Action Deafness
Action Deafness is a leading Deaf-led organisation dedicated to supporting Deaf, Deafblind, and hard of hearing individuals across the UK. Through a range of specialist services and support, we strive to empower our community, promote accessibility and inclusivity.
For more information, please visit: www.actiondeafness.org.uk
Media Contact:
Charlotte Jefferies, People Executive, Action Deafness: [email protected]
BSL - English
BSL – Welsh / Cymraeg
Welsh / Cymraeg
CYHOEDDIAD AR Y CYD – Cyngor Cymru i Bobl Fyddar ac Action Deafness
(03.10.2025) - Mae'n bleser gennym gyhoeddi y bydd Cyngor Cymru i Bobl Fyddar (WCDP) ac Action Deafness yn cwblhau eu cyfuniad ffurfiol ar 31ain Hydref 2025. Mae hyn yn dilyn cyfnod o gydweithrediad clos a chynllunio ar y cyd.
O 3ydd Tachwedd 2025, bydd WCDP yn newid yn swyddogol i fod yn:
Byddardod Ymlaen Cymru / Action Deafness Cymru
Dyma gam strategol a chadarnhaol ymlaen i'r gymuned Fyddar, Trwm ei Chlyw a Dall Fyddar yng Nghymru. Mae'r ddau sefydliad yn rhannu gweledigaeth i sicrhau, atgyfnerthu a datblygu gwasanaethau Byddar a Dall Fyddar ledled Cymru.
Mae Action Deafness yn falch o weithio mewn partneriaeth agos ag ymddiriedolwyr a thîm WCDP er mwyn sicrhau trosglwyddiad llyfn sy'n gwarchod yr hunaniaeth Gymreig, gwasanaethau lleol a threftadaeth ddiwylliannol.
Pam mae hyn yn digwydd?
Ers dros 50 mlynedd, mae WCDP wedi chwarae rhan hanfodol yn cefnogi ac eirioli dros gymunedau Byddar yng Nghymru.
Serch hynny, fel sawl elusen, mae wedi wynebu pwysau cynyddol mewn amgylchedd newidiol. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae WCDP wedi cydnabod yr angen am fodel mwy gwydn a chynaliadwy i fodloni anghenion cymunedol ac amgylcheddau ariannu sy'n newid dros amser.
Mae Action Deafness yn elusen a arweinir gan bobl Fyddar ac mae ganddi hanes cryf o gymorth arbenigol, eiriolaeth, cyfathrebu a gofal. Mae Action Deafness wedi camu ymlaen i helpu a diogelu dyfodol y Gwasanaethau ar gyfer pobl Fyddar, Trwm eu Clyw a Dall Fyddar yng Nghymru.
Mae Action Deafness a WCDP yn sefydliadau Byddar gyda chryfderau sy'n cyd-fynd yn dda. Maen nhw wedi dewis uno eu gwasanaethau a dwyn ynghyd arbenigedd lleol, cyrhaeddiad cenedlaethol a chyd-ymrwymiad i wasanaethau sy'n briodol yn ddiwylliannol.
Mae'r bartneriaeth hon yn sicrhau y bydd gwasanaethau'n cryfhau, gyda phwyslais o'r newydd ar arweinyddiaeth gymunedol, hunaniaeth Gymreig ac effaith hirdymor.
Beth fydd yn newid?
O 3ydd Tachwedd 2025, bydd WCDP yn cael ei adnabod fel Byddardod Ymlaen Cymru / Action Deafness Cymru.
Bydd yr holl wasanaethau presennol yn parhau. Mae Byddardod Ymlaen Cymru yn bwriadu sefydlu gwasanaethau newydd a chyrraedd pob rhanbarth yng Nghymru.
Bydd Action Deafness hefyd yn integreiddio ei Wasanaethau Cymorth a Gofal Arbenigol yng Nghymru, gan sicrhau bod gan bobl leol Byddar a Dall Fyddar fynediad at ofal sy'n briodol yn ddiwylliannol ac yn hygyrch o ran BSL. Bydd Action Deafness yn cyflwyno dau dîm o dde Cymru yn yr ychydig fisoedd nesaf.
Bydd pob cyfathrebiad yn defnyddio BSL yn gyntaf gyda chyfathrebu ysgrifenedig yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg). Mae hyn yn sicrhau hygyrchedd llawn at wybodaeth a chynhwysiant i bawb.
Beth mae hyn yn ei olygu i'r gymuned?
Bydd Byddardod Ymlaen Cymru / Action Deafness Cymru yn parhau i gefnogi pobl Fyddar, Trwm eu Clyw a Dall Fyddar o bob oed ledled Cymru.
Bydd Byddardod Ymlaen Cymru yn parchu a hyrwyddo diwylliant Byddar Cymru, BSL Cymru ac arweinyddiaeth leol.
Bydd Grŵp Cynghori pwrpasol i Gymru'n llywio blaenoriaethau ac yn sicrhau bod lleisiau lleol yn arwain y broses o wneud penderfyniadau.
Bydd Byddardod Ymlaen Cymru / Action Deafness Wales yn datblygu'r tîm presennol a leolir yng Nghymru. Darperir rhagor o hyfforddiant i'r tîm presennol a bydd mwy o swyddi Byddar ar gael.
Bydd Byddardod Ymlaen Cymru / Action Deafness Cymru yn cefnogi cymunedau Byddar, Trwm eu Clyw a Dall Fyddar Cymru i ymgysylltu â'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn Llywodraeth Cymru.
Amserlen:
• 23 Hydref 2025 - Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol WCDP i gymeradwyo'r trosglwyddiad yn ffurfiol
• 31 Hydref 2025 - Cyfuno Ffurfiol wedi'i gwblhau
• 03 Tachwedd 2025 – Lansio Byddardod Ymlaen Cymru/Action Deafness Cymru
"Pennod Newydd, Yr Un Nod - Meithrin Dyfodol Pobl Fyddar yng Nghymru"
Cefndir Action Deafness
Mae Action Deafness yn sefydliad blaenllaw a arweinir gan Fyddardod, ac sydd wedi ymrwymo i gynorthwyo unigolion Byddar, Byddar a Dall, ac unigolion sy’n Drwm eu Clyw ledled y DU. Trwy amrywiaeth o gymorth a gwasanaethau arbenigol, rydym yn ymdrechu i rymuso ein cymuned, a hyrwyddo hygyrchedd a chynhwysiant.
Cyswllt y Wasg:
Charlotte Jefferies, Gweithredwr Pobl, Action Deafness: [email protected]